Mae Treftadaeth Llandre wedi creu a chynnal nifer o lwybrau ichi eu crwydro er mwyn mwynhau ein treftadaeth.
Mae’r rhain yn cynnwys:
Y Llwybr Llên – taith o ryw hanner milltir yn dathlu traddodiad llenyddol y fro. Ar hyd y llwybr mae paneli â cherddi am Landre neu gan feirdd o Landre. Mae’r llwybr yn cynnig profiad unigryw i bobl o bob oed a gallwch fwynhau’r cerddi yn nhawelwch a harddwch y Glyn.
Y Llwybr Treftadaeth – taith o amgylch y fynwent, â phaneli yn nodi straeon am y sawl sydd wedi’u claddu yma, neu ffeithiau difyr am yr hyn sydd o’ch cwmpas.
Yn ogystal â hyn mae llawer o lwybrau cerdded eraill yn yr ardal.