|
CroesoMae cymuned Llandre (Llanfihangel Genau'r Glyn) i'w chanfod yng ngogledd Ceredigion, tua 5 milltir i'r gogledd o Aberystwyth ac ychydig filltiroedd o arfordir Bae Ceredigion. Mae'r gymuned yn gartref i nifer o gyrff ac yn sail i amrywiaeth o weithgareddau, a cheir disgrifiadau manwl o'r rhain ar dudalennau y safle hwn. Mae'r nodweddion hanesyddol o bwys ym mhentref Llandre yn cynnwys: porth mynwent rhestredig; ffynnon iachau wedi'i hadnewyddu; mynwent hynafol mewn coedwig serth; castell mwnt a beili Normanaidd; hen ysgol ramadeg y pentref; gorsaf reilffordd segur a thramffordd chwarel lechi. Mae amser wedi sefyll yn ei unfan yn y fynwent a cheir yno ywen 2,000 o flynyddoedd oed (yr hynaf yn y rhan hon o Gymru) ynghyd â nifer o goed eraill sy'n dyddio'n ôl ganrifoedd. |
WelcomeThe community of Llandre (Llanfihangel Genau'r Glyn) is situated in North Ceredigion, about 5 miles north of Aberystwyth and a couple of miles inland from Cardigan Bay (see Location and Walks). The community is the home of a number of organisations and the base for a range of activities, which are described more fully in the pages on this site. Important historical features in Llandre village include: a listed Lychgate; restored healing well; ancient, steeply wooded graveyard, Norman motte and bailey castle: old village grammar school; disused railway station and slate mine tramway. A 2,000 year old yew tree (the oldest in this part of Wales), stands in the time-warped graveyard, together with several other centuries-old trees. |