Llwybr Llên


Mae'r Llwybr Llên wedi ei ysbrydoli gan draddodiad hir yr ardal hon o farddoni. ’Nôl yn y 12fed ganrif roedd llysoedd y fro yn noddi beirdd a bu bardd enwocaf Cymru, Dafydd ap Gwilym, yn crwydro’n gyson ar hyd llwybrau’r ardal. Mae gan nifer o brifeirdd gysylltiad â’r ardal a heddiw mae nythaid o feirdd cydnabyddedig yn byw yma. Cynhelir gornestau barddoni yn gyson yn y gymuned.

Launch of the Poetry Path, with the Archdruid of Wales (c) Treftadaeth Llandre Heritage

Launch of the Poetry Path, with the Archdruid of Wales

Agorwyd y Llwybr Llên yn swyddogol gan T. James Jones, Archdderwydd Cymru, ym mis Mai 2012.

Mae’r llwybr yn cynnig profiad unigryw i bobl o bob oed a gallwch fwynhau’r cerddi yn nhawelwch a harddwch y Glyn. Daw unigolion, teuluoedd, grwpiau a chymdeithasau i gerdded y llwybr.

Mae'r Llwybr Llên yn cychwyn wrth borth yr eglwys. Gellir ei gerdded yn weddol hawdd o fewn rhyw awr acmae’n ddoeth gwisgo pâr o sgidiau addas. Gallwch wneud cylchdaith hwylus drwy gerdded y Llwybr Llên a dychwelyd drwy ddilyn llwybr arall sy’n arwain drwy’r fynwent ac yn ôl i’r eglwys.

Does dim tâl am gerdded y llwybr ac mae ar agor bob dydd o’r flwyddyn.

Gallwch ddarllen taflen am y Llwybr YMA.

Cerddi a beirdd


Dyma restr o'r cerddi a'r beirdd sydd ar y Llwybr Llên:

1 Llanfihangel Dan Eira, Huw Meirion Edwards
2 Cwm Eleri, Greg Hill
3 Llanfihangel Genau’r Glyn, Idwal Jones
4 Llanfihangel Genau’r Glyn, J. J. Williams
5 Y Tincer Tlawd/The White Lanes of Summer, Tom Macdonald
6 Cantre’r Gwaelod, Dewi Morgan
7 Golden Wedding, Tom Macdonald
8 Gwallter, Huw Ceiriog
9 Clawdd, Vernon Jones
10 Ffynnon, Geraint Williams
11 Yr Alwad, Philip Thomas
12 Megan Alys, Dafydd Huws
13 Ysgol Rhydypennau, Ifor Davies
14 Potato Peeler, Annette Williamson
15 Llenwi’r Car, Lleucu Roberts
16 The Vale of Llanfihangel Genau’r Glyn, Isaac Williams



Dylunio a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration