Llefydd Llonydd


Peaceful Places (c) Treftadaeth Llandre Heritage

Peaceful Places

Llwybr twristiaeth dreftadaeth yw Llefydd Llonydd sy’n adrodd straeon clwstwr o eglwysi a chapeli ar draws Gogledd Ceredigion.

Rheolir y prosiect gan Treftadaeth Llandre.

Cynnyrch prosiect Llwybr Treftadaeth Eglwysi Gogledd Ceredigion yw Llefydd Llonydd, sydd wedi’i gefnogi gan Cadw (gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru) gyda buddsoddiad gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF).

Ewch ar daith drwy’r dirwedd i ddarganfod bywyd gwyllt a harddwch naturiol, hanes teuluol a straeon am ddigwyddiadau a gorchestion dynol, a hyn oll wedi’i addurno â phensaernïaeth, celf a chrefftwaith.

Nid llwybr ffydd mo Llefydd Llonydd yn yr ystyr traddodiadol. Ei ddiben yw dathlu treftadaeth pob eglwys a chapel mewn ffyrdd sy’n berthnasol i bawb, beth bynnag yw ei gredoau crefyddol. Mae’n annog ymwelwyr i brofi eglwysi a chapeli o safbwyntiau newydd – fel llefydd i fyfyrio a chael ysbrydoliaeth; fel cyfleoedd i ‘wneud rhywbeth gwahanol’ ac arafu’ch cam ac fel cyrchfannau lle gall rhywun dreulio amser arbennig yng nghanol prydferthwch a llonyddwch y dirwedd.

Mae’r prosiect wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â chymunedau lleol ym mhob un o’r cyrchfannau ar y llwybr – hebddyn nhw, fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl.

Mae gan Llefydd Llonydd ei gwefan ei hun.

Dylunio a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration