Hanes


Mae ardal Llanfihangel Genau’r Glyn yn gyforiog o dros ddwy fil o flynyddoedd o hanes.

Isod cewch restr o rai o nodweddion hanesyddol yr ardal, a phrosiectau Treftadaeth Llandre ym maes hanes lleol. Bydd rhagor o fanylion y nodweddion a’r prosiectau hyn yn ymddangos maes o law o’r dolenni perthnasol ar y dudalen hon.

Cewch fwy o wybodaeth am hanes yr ardal a’r eglwys yn llyfrau Randall Enoch OBE, un o sylfaenwyr Treftadaeth Llandre: Llanfihangel Genau’r Glyn – A Church History (2002) a Llanfihangel Genau’r Glyn – The History of a Community (2010). Cyhoeddwyd y llyfrau hyn gyda chymorth Treftadaeth Llandre. Cysylltwch â ni os hoffech brynu copïau o’r llyfrau hyn.

Y gorffennol pell


Mae tair o gaerau hynafol – Pwll Glas, Llety Llwyd ac Allt Goch – yn y cyffiniau, a daethpwyd o hyd i ben bwyell gopr o’r Oes Efydd ger Pont Rhydypennau nid nepell o’r pentref. Roedd ffordd Rufeinig Sarn Helen o Aberystwyth tua’r gogledd nid nepell o’r pentref.

Church from the trees (c) Countryscape

Church from the trees

Eglwys Llanfihangel Genau’r Glyn

Mae adeilad presennol yr eglwys yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ond mae achos yr eglwys ei hun yn llawer hŷn na hynny ac efallai ei bod yn dyddio o gyfnod y Normaniaid. Mae’r ywen hynafol ym mynwent yr eglwys, ynghyd â’r ffynnon sanctaidd sydd islaw’r eglwys, yn awgrymu bod y safle yn un cysegredig cyn dyfodiad Cristnogaeth. Yr eglwys hon yw un o ganolfannau’r daith Llefydd Llonydd. Mae’r cofnod ar Coflein (Cronfa ddata Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru) am yr eglwys FAN HYN.


Lychgate and church (c) Countryscape

Lychgate and church

Porth y fynwent


Mae porth y fynwent yn dyddio o’r ddeunawfed ganrif, ac mae’n enghraifft brin o borth mynwent dros nant o gyfnod cyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adnewyddwyd y porth yn nawdegau’r ganrif ddiwethaf. Mae’r cofnod am borth yr eglwys ar Coflein (Cronfa ddata Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru) FAN HYN.

Ancient yew tree (c) Countryscape

Ancient yew tree

Ywen hynafol


Mae’r ywen hynafol ym mynwent yr eglwys yn ddwy fil o flynyddoedd oed, a dyma un o’r coed hynaf yng ngorllewin Cymru. Mae’r goeden yn edrych fel tri boncyff gwahanol ond maent un goeden yw hi o dan y ddaear; canlyniad cael ei tharo gan fellten yn y canol oesoedd.





Mynwentydd


Mae tair mynwent yn y pentref, hen fynwent drawiadol yr eglwys ar y llethr coediog a’r fynwent newydd sydd islaw’r ffordd, ynghyd â mynwent Capel y Garn sef achos y Methodistiaid Calfinaidd yn Bow Street. Gallwch chwilio cronfa ddata o gofnodion bedydd, priodasau a marwolaeth yr eglwys, ynghyd ag arysgrifau’r beddfeini yn ei dwy fynwent, yn FAN HYN ar y wefan hon.



The well (c) Countryscape

The well

Ffynnon sanctaidd

Mae ffynnon sanctaidd islaw wal ddeheuol yr eglwys. Dywedid y byddai dŵr y ffynnon – nad yw byth yn sychu – yn gwella’r crudcymalau, ac yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg byddai tripiau yn cael eu trefnu i ymweld â hi. Mae’r cofnod ar Coflein (Cronfa ddata Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru) am y ffynnon FAN HYN.

Castell Gwallter


Ar y bryn uwchlaw’r pentref y mae safle Castell Gwallter, castell mwnt-a-beili Normanaidd a godwyd gan y marchog Normanaidd Walter de Bec rhwng 1110 ac 1136. Dinistriwyd y castell gan y Cymry ym 1153. Llanfihangel Castell Gwallter oedd enw’r plwyf yn y canol oesoedd ac mae cwpan cymun dyddiedig 1573 yn yr eglwys a’r enw hwn wedi’i gerfio arno. Mae’r cofnod ar Coflein (Cronfa ddata Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru) am y castell FAN HYN.

Ffermdy Glanfrêd


Ffermdy Glanfrêd, ar Lôn Glanfrêd yn y pentref, oedd cartref teuluol mam Edward Llwyd (neu Lhuyd), y naturiaethwr, hynafiaethydd ac ysgolhaig enwog a fu’n allweddol yn sefydlu Amgueddfa’r Ashmolean yn Rhydychen. Mae’n bosibl bod yr enw yn deillio o enw’r Santes Ffraid. Mae un o straeon gwerin yr ardal yn awgrymu y bu ymgiprys rhwng dilynwyr sect Sant Mihangel a dilynwyr sect Santes Ffraid yma. Yn ôl y traddodiad, roedd eglwys Llanfihangel Genau’r Glyn i fod i gael ei chodi ar safle Glanfrêd ond bob bore, pan fyddai’r adeiladwyr yn dychwelyd i’r fan, byddent yn dod o hyd i’r waliau wedi cael eu dymchwel a chlywyd llais yn yr ardal yn datgan: Llanfihangel, yng ngenau’r glyn, Glanfrêd Fawr gaiff fod fan hyn.

Ysgoldy Bethlehem


Mae Ysgoldy Bethlehem, a godwyd gan y Methodistiaid Calfinaidd yn 1875 a’i ailadeiladu yn 1905 i fod yn rhan o achos Capel y Garn yn Bow Street, bellach yn ganolfan i bob math o weithgareddau cymunedol yn ogystal ag yn addoldy. Mae’r cofnod ar Coflein (Cronfa ddata Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru) am yr ysgoldy FAN HYN.

Tramffordd yr Hafan a’r rheilffordd fawr


Yn Llandre yr oedd Tramffordd yr Hafan yn cysylltu â’r brif lein reilffordd i Aberystwyth. Roedd y dramffordd hon yn cludo cynnyrch y mwyngloddiau yn y bryniau gerllaw i lawr at y rheilffordd. Bu gorsaf reilffordd yn y pentref tan i fwyell Beeching ei chau yn chwedegau’r ganrif ddiwethaf. Mae’r orsaf ei hun bellach yn gartref preifat, ac mae safle’r gweithfeydd oedd yn gysylltiedig â’r orsaf yn barc chwarae braf i blant yr ardal. Mae’r cofnod ar Coflein (Cronfa ddata Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru) am yr orsaf yn FAN HYN.

Hanes llafar


Mae Treftadaeth Llandre wedi cynnal prosiect Hanes Llafar o dan arweiniad Llinos Dafis. Cewch wybodaeth am y prosiect hwnnw hefyd drwy ddilyn y ddolen briodol o’r dudalen hon.

Dylunio a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration