Mae amgylchedd pentref Llandre yn hardd ac amrywiol iawn.
Cadwch lygad ar agor am ein barcutiaid!
Mae Treftadaeth Llandre wedi gwneud llawer o waith i gofnodi a diogelu’r amgylchedd hwn.
Ers sefydlu’r elusen, cynhaliwyd llawer o waith o dan arweiniad diflino Roger Haggar er mwyn:
● rheoli’r coetiroedd uwchlaw’r pentref
● adfer waliau cerrig yn yr hen fynwent, a diogelu’r beddfeini
● diogelu cynefinoedd naturiol
● creu llwybrau cerdded hamddenol drwy'r coed i chi fwynhau’r amgylchedd bendigedig a thawel hwn.
Cynhaliwyd llawer o’r gwaith hwn gyda chymorth gwirfoddolwyr a oedd yn trechu problemau a alcohol a chyffuriau. Bu eu gwaith gyda Treftadaeth Llandre yn gymorth i nifer ohonynt greu bywyd newydd iddynt hwy eu hunain.
Rydym hefyd wedi comisiynu nifer o adroddiadau ar fywyd gwyllt yr ardal.
Yn 2015 cynhaliodd Annette Williamson, botanegydd sy’n byw yn y pentref, arolwg o’r blodau a’r bywyd gwyllt mewn chwe chae o gwmpas Castell Gwallter. Nid yw’r caeau hyn wedi’u gwrteithio ac nid ydynt wedi cael eu draenio ers y 1950au. Maent wedi’u hamgylchynu gan hen berthi a choed a chânt eu pori’n ysgafn gan wartheg.
Yn y caeau hyn cofnodwyd cyfanswm o 167 rhywogaeth o blanhigion gwyllt, 15 rhywogaeth o loÿnnod byw, o leiaf 6 rhywogaeth o famaliaid, 24 rhywogaeth o adar a 2 rywogaeth o ymlusgiad. Mae’r cyfoeth hwn o fywyd gwyllt yn golygu bod y safle yn un o bwysigrwydd cadwriaethol arbennig, o gofio bod Cymru wedi colli 98% o’i gweirgloddiau blodeuog dros y 40 mlynedd diwethaf.
Cewch darllen adroddiad Annette ar y blodau gwylltion a bywyd gwyllt porfeydd Castell Gwallter YMA