Elusen gymunedol a sefydlwyd yn 2003 yw Treftadaeth Llandre. Caiff ei rhedeg gan Bwyllgor Gweithredol o 10 o ymddiriedolwyr a etholwyd gan yr aelodau, yn unol â chyfansoddiad a gofrestrwyd â’r Comisiwn Elusennau. Rhif yr Elusen yw 1106079.
Yn ogystal â chynnal prosiectau i ddiogelu a hyrwyddo hanes, diwylliant ac amgylchedd Llanfihangel Genau’r Glyn, rydym yn trefnu rhaglen o ddigwyddiadau a sgyrsiau misol ar faterion a fydd o ddiddordeb i’n haelodau. Fel arfer, cynhelir y rhain am 7.30pm ddydd Iau olaf y mis yn Ysgoldy Bethlehem yn y pentref, adeilad hardd sy’n perthyn i Gapel y Garn yn Bow Street. Cewch raglen y flwyddyn hon ar y dudalen hafan.
Rydym yn cyhoeddi cylchlythyr bob chwe mis.
Rydym yn croesawu aelodau newydd, o bell ac agos.
Cost aelodaeth blwyddyn yw £5. Am y pris hwn, cewch fynediad am ddim i’n holl ddigwyddiadau misol. Codir tâl o £2 ar unigolion nad ydynt yn aelodau yn y digwyddiadau hyn.
Cysylltwch â ni i ymaelodi.
Dyma gopi o gyfansoddiad yr elusen:
● Cyfansoddiad
Mae Treftadaeth Llandre yn gweithredu’r polisïau canlynol:
● Dwyieithrwydd
● Cyfle Cyfartal
● Iechyd a Diogelwch
● Hyfforddiant
● Plant ac Oedolion Agored i Niwed
● Yr Amgylchedd
● Mynediad
● Cyllid